Mae recriwtio myfyrwyr ôl-raddedig
eithriadol o'r DU a ledled y byd yn ganolog i'n hathroniaeth ymchwil.
Mae myfyrwyr yn weithgar ar draws ystod o feysydd ymchwil ac yn cael eu
hariannu o ystod o ffynonellau (er enghraifft: hunan-ariannu, diwydiant,
elusen, llywodraeth y DU a'r UE). Mae gan ein myfyrwyr ymchwil fynediad
i gyfleusterau o'r radd flaenaf; mae ganddynt ofod swyddfa pwrpasol ac
fe'u hanogir i gyflwyno eu gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a
rhyngwladol.
Rydym yn croesawu ceisiadau am PhD neu astudiaeth Meistr trwy Ymchwil
yn un o’n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio ar sail amser llawn neu
ran-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol
gyda chorff ymchwil yn barod, efallai mai PhD fesul Portffolio yw'r
llwybr i chi.
Mae
ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael tîm goruchwylio sydd â'r arbenigedd a'r
profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu
i lunio eich prosiect ymchwil doethurol, yn eich cynghori ar greu
rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.
Gallwch ddod o hyd i'n ffioedd dysgu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yma a mwy o wybodaeth ar ein gwefan Ysgol Graddedigion. Pan fyddwch yn barod i gyflwyno cais, dyma sut yr ydych yn ei wneud a sut y caiff ei ystyried.
Edrychwch ar ein cyrsiau peirianneg israddedig ac ôl-raddedig yma.
Porwch broffiliau staff a dewch o hyd i oruchwylydd posibl y gallwch gysylltu ag ef/hi i drafod syniadau ar gyfer pwnc ymchwil. Gallwch hefyd gysylltu â’r Ysgol Graddedigion am gyngor.
Llinos Spargo, Ysgol i Raddedigion, Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth