Datblygu monitorau arloesol ocsigen y gwaed i gleifion Covid-19

Pulse Oximeter

Dr Xiao Guo


Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi datblygu monitor arloesol ocsigen y gwaed ar ôl i gyflenwadau’r ddyfais allweddol hon brinhau o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Mae’r tîm o ymchwilwyr wedi bod yn gweithio o dan gyfarwyddyd Tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol (CERET) Llywodraeth Cymru dan arweiniad Diwydiant Cymru, a oedd yn chwilio am ddatblygiad cyfarpar wedi’i wneud yn lleol.

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Panasonic UK a chlinigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, dyluniwyd y ddyfais, a elwir yn ocsifesurydd pwls, gyda’r nod o gael ei gweithgynhyrchu yng Nghymru ac mae’n gwahanu rhag cadwyni cyflenwi safonol ocsifesuryddion, gan ddileu pwyntiau o wasgfa wrth gaffael yn y dyfodol, i bob diben.

Mae dyfais yr ocsifesurydd yn clampio wrth fys y claf gan ganiatáu i glinigwyr fonitro lefel yr ocsigen yn llif y gwaed ac, yn holl bwysig, monitro perfformiad ysgyfaint y claf. Hefyd, mae potensial i’w ddefnyddio yn y gymuned, gan ganiatáu i glinigwyr asesu cleifion â Covid-19 o bell i fonitro perfformiad eu hysgyfaint gartref er mwyn penderfynu ar driniaeth briodol a chynnar i achub bywyd, fel CPAP i helpu iddynt anadlu.

Nid yn unig y gwnaeth y tîm ymchwilwyr fynd â’r cysyniad o’i egwyddorion cyntaf i’w brototeip mewn pythefnos yn unig, maent hefyd wedi datblygu dyfais a fydd, yn hollbwysig, yn mesur lefelau ocsigen is gyda mwy o gywirdeb, sy’n ofyniad hanfodol i drin Covid-19 yn effeithiol.

Mae’r tîm wedi datblygu 20 prototeip sydd wedi’u profi yn unol â safonau gweithgynhyrchu, fel EMC meddygol, gan basio’r profion hyn. Hefyd, cyflwynwyd y ddyfais ar gyfer cymeradwyaeth garlam yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) fel y gallai’r GIG a darparwyr gofal eraill eu defnyddio cyn gynted ag y bo’u hangen.

Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £83,000 i PDC o dan gynnig Cymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi COVID LlC i dalu cost ymchwil a datblygiad y dyluniad newydd. Ar ôl cael cymeradwyaeth eithriad yr MHRA, byddai’r ddyfais yna’n cael ei chynhyrchu gan weithgynhyrchwyr yng Nghymru o fewn wythnosau, yn barod ar gyfer unrhyw gyfnodau pan fydd yr achosion o Covid-19 ar eu hanterth yn y dyfodol.

Nigel Copner, Athro Optoelectroneg yn PDC sydd wedi arwain y tîm o ymchwilwyr wrth ddatblygu’r prototeip newydd hwn. Meddai: “Roeddem eisiau gallu defnyddio’n profiad a’n gwybodaeth am optoelectroneg a pheirianneg i ddatblygu rhywbeth a fyddai o werth gwirioneddol yn ystod y pandemig. Ar ôl trafodaethau â Llywodraeth Cymru, daeth i’r amlwg y gallem wir helpu’r GIG trwy ddatblygu ocsifesurydd pwls cost isel, gwell, y gellid ei weithgynhyrchu’n lleol, gan osgoi pwyntiau o wasgfa posibl mewn galw, gostwng amseroedd darparu, a chreu cadwyn gyflenwi newydd yng Nghymru a’r DU.

“Mae galw enfawr am gyflenwadau rhannau o’r ocsifesuryddion pwls presennol ac mae gweithio gydag arbenigedd gweithgynhyrchu lleol yn rhoi llwybr arall i ni greu dyfais a allai helpu i achub bywydau.”

Meddai’r Athro Paul Harrison, y Rhag Is-ganghellor Arloesi ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol De Cymru: “Mae’n enghraifft arall o’r argyfwng hwn yn annog arloesedd ac rwy’n falch iawn o’r tîm yn yr adran peirianneg drydanol ac electronig sydd wedi gweithio mor galed i ddatblygu’r ocsifesurydd pwls. Bydd y dyluniad o’r radd flaenaf yn caniatáu am ganfod anawsterau anadlu yn gynnar ymhlith pobl â Covid-19 tra’u bod yn hunanynysu gartref.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi a gweithio gyda Phrifysgol De Cymru a chwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru i ddatblygu darn hanfodol o gyfarpar mewn cyfnod mor fyr.  Mae’n wych bod y rhain yn gallu cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru i gefnogi GIG Cymru, a phellach i ffwrdd.”

Mae Dr Rhys Thomas, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi bod yn gweithio gyda PDC ar ddatblygiad y ddyfais. Dywedodd: “Un o fanteision allweddol y ddyfais hon yw ei bod hi’n gallu mesur lefelau ocsigen isel, sy’n nodwedd o’r hyn rydym ni’n ei weld mewn cleifion â Covid-19. Mae gallu’i phrynu a’i gweithgynhyrchu’n lleol yng Nghymru hefyd yn cynnig buddion posibl i’r economi.”