03-06-2021
Mae ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn cyllid gwerth bron £140,000 i ystyried sut y gellir defnyddio prosesau sy’n rhan o’r broses greu gwydr i gynhyrchu dur.
Mae Dr Shee Meng Thai a Dr CK Tan o PDC wedi cael grant o £139,331, yn rhan o becyn cyllid gwerth £810,914 gan Innovate UK, i ymchwilio i ddichonoldeb trosglwyddo technoleg hylosgi Ocsidau Nitrogen Isel (NOx), proses o’r enw Chwistrellu Ategol (ChA), a ddatblygwyd ar gyfer ffwrneisi sy'n toddi gwydr, i ddiwydiannau eraill, megis y sector dur.
Dangoswyd o'r blaen, mewn labordai ac yn fasnachol, fod gan dechnoleg hylosgi ChA a ddefnyddir mewn ffwrneisi sy'n toddi gwydr botensial i leihau allyriadau NOx a chynyddu effeithlonrwydd ffwrneisi.
Bydd y tîm o PDC, gyda chefnogaeth Global Combustion Systems, Glass Futures, Tata Steel, a Liberty Steel, yn asesu perfformiad y dechnoleg ChA gydag amrywiaeth o ffwrneisi gwydr a dur newydd. Byddan nhw’n defnyddio modelau cyfrifiadurol i ddeall sut i drosglwyddo'r dechnoleg i brosesau cynhyrchu dur, ac i fesur y manteision posibl.
"Ar gyfer y diwydiannau gwydr a dur, mae'n bwysig creu technoleg gost-effeithiol i leihau allyriadau NOx a chynyddu effeithlonrwydd ffwrneisi i fodloni gofynion rheoliadol, ar gyfer allyriadau CO2 yn ogystal ag allyriadau NOx.," dywedodd llefarydd ar ran PDC.
"Mae’r dechnoleg hylosgi ChA ar gyfer ffwrneisi sy'n toddi gwydr yn ailddosbarthu'r tanwydd a gyflenwir i'r ffwrnais drwy chwistrellu rhan ohono i ardal sy’n ailgylchu nwyon. Mae’n lleihau allyriadau NOx gan hyd at 80% ac yn cynyddu effeithlonrwydd thermol ffwrnais gan hyd at 3%.
"Gallai'r dechnoleg hon greu dull cost-isel a dibynadwy o leihau allyriadau NOx i gynhyrchwyr gwydr a dur, ac mae’n bosibl addasu ffwrneisi sydd eisoes yn bodoli i wneud hyn.
"Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn a fydd yn caniatáu i PDC, sy'n gyd-berchen ar eiddo deallusol y dechnoleg hylosgi ChA hon, fanteisio ar y dechnoleg ar gyfer diwydiannau sylfaenol eraill."
31-03-2022
18-02-2022
23-06-2021
03-06-2021
08-02-2021
22-07-2020
17-07-2020
20-04-2020