Grŵp Ymchwil Technoleg Rheoli a Rhwydwaith Uwch gynt, yn arbenigo mewn theori rheoli uwch a thechnoleg rheoli diwydiannol.
Mae’r uned ymchwil wedi bodoli ers dros 20 mlynedd ac mae wedi cydweithio â diwydiant a grwpiau ymchwil yn y DU, Ewrop a’r byd. Ers RAE 2008 mae aelodau'r uned wedi cyhoeddi mwy nag 80 o bapurau cyfnodolion a 70 o bapurau cynhadledd, a dau lyfr.
Mae gan y tîm arbenigedd eang mewn theori rheoli a chymwysiadau diwydiannol. Yn wyneb cyfraniadau nodedig yr Athro Guoping Liu at ymchwil ym maes peirianneg, mae wedi’i enwi ymhlith Ymchwilwyr Uchel
eu Parch gan Clarivate Analytics, sef rhestr o ysgolheigion mwyaf
blaenllaw’r byd yn y gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol.
Mae ymchwilwyr yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Ganolfan Peirianneg Systemau Modurol a Phŵer (CAPSE), tŷ ymchwil, datblygu, profi ac ardystio annibynnol a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae gan CAPSE enw da am ymchwil blaengar a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth o fewn y sectorau peirianneg systemau modurol a phŵer uwch.
Ariennir prosiectau ymchwil yn bennaf gan EU-FP6, EU-RDF, EU-SF, EPSRC, HEFCW, DTI, TSB, ESRC, LlCC, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, y Gymdeithas Frenhinol, Ymddiriedolaeth Leverhulme a chwmnïau diwydiannol:
Rydym yn croesawu ceisiadau'r DU a Rhyngwladol gan raddedigion sydd â chymwysterau addas sydd â diddordeb mewn ymuno â ni ar gyfer ymchwil ôl-raddedig.